SL(5)303 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir yng Nghymru, ac mae’n pennu’r swm sydd i’w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2018 i 11 Medi 2019, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodir dim pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir dim pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r Gorchymyn yn diffinio "hectar cymwys" drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, sef Rheoliad (UE) 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cefnogi o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin.
O dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, bydd Rheoliad UE 1307/2013 yn rhan o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd ar y diwrnod ymadael.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
23 Ionawr 2019